Datganiad hygyrchedd ar gyfer newid y cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth ar gyfer newid cyfeiriad ar V5CW

Rheolir y wefan hon gan DVLA. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor syml â phosibl i’w deall.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.




Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

Mae tri methiant lefel A WCAG yn bresennol yn ystod yr ail brofi ac maent yn broblem i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Cafodd delwedd alt ei diweddaru; fodd bynnag, roedd y diweddariad yn cynnwys y testun esiampl a ddarparwyd gan y datrysiad blaenorol a dim ond disgrifiad o beth i’w ddarparu oedd y testun esiampl. Arweiniodd hyn i’r delwedd alt yn dal i fethu.

Darparwyd elfennau rhestr ar gyfer y dolenni ‘Cyfeiriad’; fodd bynnag, darparwyd elfen rhestr ei hun ar gyfer bob cyfeiriad a bydd hyn yn achosi dryswch i ddefnyddwyr darllenydd sgrin gyda chynllun y dudalen.

Mae’r crynodeb gwallau trwy gydol y gwasanaeth yn dal i ddefnyddio priodoleddau hunaniaeth dyblyg ac yn gwneud i’r un dolenni tudalen symud ffocws y defnyddiwr i’r rhan gwall anghywir. Mae hyn yn dal i fod yn broblem wrth ddefnyddio gwe-lywio drwy fysellfwrdd yn unig.

Mae sylwadau defnyddioldeb wedi cael eu darparu yn agos at ddiwedd yr adran riportio ac maent yn disgrifio sawl agwedd o’r wefan a allai gael ei gwella i fod o fudd i’r profiad defnyddiwr cyflawn. Hefyd, cyfeiriwyd at argymhellion System Cynllunio GOV.UK ble’n gymwys i helpu â chydymffurfiaeth.




Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille hygyrch, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt trwy:





Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk




Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).




Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.




Statws cydymffurfio

1. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â’r safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 , oherwydd diffyg cydymffurfio (mae hyn yn golygu bod y cynnwys dan sylw yng nghwmpas y rheoliadau, ond bod ganddo broblem hygyrchedd).




Cynnwys nad yw’n cydymffurfio

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn cydymffurfio am y rhesymau canlynol: diffyg cydymffurfio (mae hyn yn golygu bod y cynnwys dan sylw yng nghwmpas y rheoliadau, ond bod ganddo broblem hygyrchedd).




Peidio cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd


  • Delwedd alt
  • Nid oes gan y ddelwedd sy’n ymwneud â ble mae defnyddiwr yn gallu canfod eu rhif V5CW nodwedd alt. Ni fyddai defnyddwyr darllenydd sgrîn yn ymwybodol o beth mae’r graffigyn hwn yn ei gynrychioli. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1

Byddwn yn sicrhau bod pob delwedd yn cynnwys dewis testun arall amgen erbyn Hydref 2020. Pan gyhoeddwn gynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn ateb safonau hygyrchedd.

  • Rhestrau
  • Mae rhestr o gyfeiriadau ar y dudalen ‘Dewiswch eich cyfeiriad o’r rhestr’ ac maent wedi’u marcio yn unigol. Byddai defnyddwyr darllenydd sgrin yn cymryd eu bod yn rhannau ar wahân i’r dudalen wasanaeth. Bydd angen cynrychioli’r rhain fel rhestr yn rhaglennol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1

  • Targed dolen
  • Ar y sgriniau crynhoi Gwall nid yw’r dolenni sgipio yn gweithredu fel y bwriedir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.1 a 2.4.1 WCAG 2.1

Byddwn yn sicrhau bod pob gwerth ID yn unigryw i ddatrys y mater hwn ac yn atal ymddygiad afreolaidd erbyn Hydref 2020. Pan gyhoeddwn gynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn ateb safonau hygyrchedd.




Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nodwyd y materion canlynol gyda safonau dylunio GDS fel rhan o'r asesiad ac fe'u rhestrir isod:

Trefn y wybodaeth
Teitl y dudalen
Trafod Gwallau
Mewnbwn actifadu llais
Trefn ffocws

Er nad yw'r rhain o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd, gwneir newidiadau lle bo'n bosibl fel rhan o'r newidiadau hygyrchedd sgrin.




PDFau a dogfennau eraill

Darperir y wybodaeth hon yn ein Polisi dogfennau hygyrchedd




Fideo byw

Nid ydym yn cynllunio ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio o gwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd.




Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn ystod 2020 i yn gynnar yn 2021. Adolygir ein gwasanaethau hŷn ar hyn o bryd gyda’r nod i’w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch syml yn ystod y ddwy flynedd nesaf.




Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 29 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 29 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 17 Medi 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.

Profwyd 5 taith cwsmer a oedd yn cwmpasu llwybrau hapus ac anhapus. Sicrhaodd y dull hwn fod gennym amrywiaeth o senarios defnyddwyr i brofi hygyrchedd yn effeithiol.

  • Taith 1: newid llwyddiannus cynhwysol trosglwyddo cyfeiriad
  • Taith 2: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan wall gan na nodwyd peth gwybodaeth e.e. rhif cofrestru sy’n atal y cwsmer rhag parhau.
  • Taith 3: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan wall gan na fewnbynnodd y cwsmer gyfeiriad yn y DU.
  • Taith 4: Dangos y dudalen cynnal a chadw
  • Taith 5: Adborth, Wedi gwirio ymarferoldeb y sgrin