Telerau ac amodau

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rydych chi y cwsmer yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn ac yn cytuno i ufuddhau iddynt.

Mae'r gwasanaeth dan berchnogaeth ac yn cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Asiantaeth Weithredol o'r Adran Drafnidiaeth.

Mynediad at y Gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi unigolion i geisio am newid manylion cyfeiriad ar Dystysgrif Gofrestru Cerbyd (V5C) ar-lein. Yn y dyfodol, gallai gwasanaethau a nodweddion ychwanegol gael eu hychwanegu.

Dylech chi ymdrechu i gael mynediad at y gwasanaeth hwn dim ond os ydych chi'n awdurdodedig i wneud hynny, hynny yw, chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd neu yn werthwr cerbydau ac mae gennych gydsyniad ceidwad presennol y cerbyd.

Bydd angen rhif cofrestru'r cerbyd arnoch chi, y rhif cyfeirio 11 digid o'r Dystysgrif Gofrestru Cerbyd ddiweddaraf (V5C) a chod post er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth hwn.

Bydd y gwasanaeth hwn yn hygyrch i'r holl unigolion sy'n dymuno ceisio newid cyfeiriad ar Dystysgrif Gofrestru Cerbyd (V5C) o 7am hyd 8pm. (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc)

Costau

Ni fydd cost yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn.

Terfyniad

Mae DVLA yn cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaeth hwn yn ôl ar unrhyw adeg ac heb rybudd blaenorol.

Parhad y gwasanaeth

Lle'n bosibl, bydd DVLA yn defnyddio ymdrechion rhesymol i sicrhau nad oes toriad ym mharhad gwasanaeth a bydd yn gwneud newidiadau pan fo gofyn yn unig. Gall fod gofyn am ddiffoddiadau yn achlysurol lle mae angen i uwchraddiadau i'r gwasanaeth gael eu gweithredu.

Ymwadiad

Nid yw DVLA yn derbyn atebolrwydd am golled na niwed a achosir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, boed wedi'i achosi gan gamwedd, toriad contract neu fel arall, mewn cysylltiad â'n gwasanaeth, ei ddefnydd, yr anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnydd ein gwasanaeth, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu postio arno.

Mae hyn yn cynnwys colli:

  • incwm neu refeniw
  • busnes
  • elwau neu gontractau
  • arbedion a ragwelir
  • data
  • ewyllys da
  • eiddo diriaethol
  • gwastraff amser rheolwyr neu swyddfa

Mae gwefannau neu we-dudalennau y mae'r gwasanaeth hwn yn gysylltiedig â hwy at ddibenion gwybodaeth yn unig.

Nid yw DVLA yn rheoli, cymeradwyo, noddi na chymeradwyo cynnwys ar y fath wefannau na thudalennau gwe, ac eithrio lle y datgenir hynny'n benodol.

Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golledion neu gosbau a gynhyrchir o ganlyniad i'ch defnydd o unrhyw ddolenni na dibyniaeth ar gynnwys unrhyw wefan neu dudalennau gwe y mae'r gwasanaeth hwn yn gysylltiedig â hwy.

Cwcis

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn a chytuno â'r telerau ac amodau hyn, rydych chi, y cwsmer yn cytuno y bydd DVLA yn casglu gwybodaeth ynglŷn â defnydd y gwasanaeth hwn. Pan rydych chi, y cwsmer yn ymweld â'r wefan hon gallai swm bach o ddata sy'n cael ei adnabod fel cwci gael ei storio ar eich dyfais. Mae DVLA yn defnyddio cwcis i wella'r safle trwy fonitro sut rydych chi, y cwsmer yn ei ddefnyddio. Gallwch chi, y cwsmer gyflunio eich dyfais i wrthod cwcis. Sylwch y gallech chi, y cwsmer beidio â gallu cael mynediad neu ddefnyddio nodweddion penodol o'r wefan hon os ydych chi, y cwsmer yn gwrthod cwci. Darllenwch y polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Diogelu rag firysau

Bydd DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o gynhyrchu. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi, y cwsmer gymryd eich rhagofalon eich hunan i sicrhau bod y broses a ddefnyddiwch ar gyfer cael mynediad at y gwasanaeth hwn ddim yn eich gwneud chi, y cwsmer yn agored i risgiau firysau, cod cyfrifiadur maleisus neu ffurfiau eraill o ymyrraeth a allai niweidio eich dyfais.

Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, tarfu ar neu ddifrod i'ch data na'ch dyfais allai ddigwydd tra'n defnyddio deunydd sy'n deillio o'r gwasanaeth hwn.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Os ydych chi, y cwsmer yn camddefnyddio'r gwasanaeth trwy gyflwyno firysau, ymwelwyr di wahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu niweidiol yn dechnolegol, neu'n ceisio cael mynediad anawdurdodedig i'r gwasanaeth neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â DVLA, yn ymosod ar ein gwasanaeth trwy ymosodiad gwadu gwasanaeth neu ymosodiad gwadu gwasanaeth wedi'i ddosbarthu, byddech chi, y cwsmer yn cyflawni camwedd troseddol o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd DVLA yn adrodd am unrhyw doriad o'r fath i'r awdurdodau gorfodi cyfraith perthnasol a bydd yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt.

Hawlfraint ac atgynhyrchu

Mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron oni bai y nodir fel arall. Darllenwch dudalen hawlfraint y goron am ragor o wybodaeth.

Nid oes gennych chi, y cwsmer yr hawl i addasu na diwygio'r Wybodaeth, bydd unrhyw ymdrech i wneud hynny yn gyfystyr â thorri'r telerau ac amodau hyn.

Mae'r enwau, delweddau a logos sy'n adnabod DVLA yn nodau perchnogol DVLA. Nid yw copïo logos DVLA a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill y ceir mynediad atynt trwy'r safle hwn yn cael ei ganiatáu heb gymeradwyaeth flaenorol perchennog perthnasol yr hawlfraint.

Newidiadau

Mae DVLA yn cadw'r hawl, yn unol â'i disgresiwn, i wneud newidiadau i unrhyw ran o'r gwasanaeth hwn, y wybodaeth, neu'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Pe byddai DVLA yn newid y telerau ac amodau hyn, bydd copi wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno ar y dudalen hon.

Toradwyedd

Os bernir bod unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn annilys, anorfodadwy neu anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy'n weddill serch hynny yn parhau i fod mewn grym yn llawn.

Os yw DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddo o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny yn cael eu hildio'n awtomatig ar unrhyw achlysur gwahanol.

Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth DVLA

Nid yw DVLA yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn lle mae'r fath fethiant oherwydd amgylchiad y tu hwnt i'w rheolaeth resymol. Os yw DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddo o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny yn cael eu hildio yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.

Cyfraith lywodraethol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan a'u dehongli yn unol â deddfau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn destun barnwriaeth gyfyngedig Llysoedd Lloegr a Chymru.